Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (58) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1–7, 9-11 ac 13-15. Ni ofynnwyd cwestiwn 8. Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.25.
3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at ymgysylltiad cyflogwyr â Sgiliau
Dechreuodd yr eitem am 14.40.
4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Amcanion Cydraddoldeb a Chynllun Strategaeth Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.15.
5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.52.
6. Cynnig i gymeradwyo egwyddorion cyffredinol Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.36
NDM4959 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru).
Gosodwyd Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2011;
Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Fil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 30 Mawrth 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7. Dadl ar Strategaeth Cymru ar y newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf
Dechreuodd yr eitem am 17.13
NDM4960 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
(a) Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf; a
(b) y camau sy’n cael eu cymryd i wireddu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder:
a) bod y duedd mewn allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 1990/2009 yn yr adroddiad yn awgrymu na chyrhaeddir darged 2020 o sicrhau gostyngiad o 40 y cant; a
b) mai ar hyn o bryd, dim ond o ganlyniad i’r dirywiad economaidd y mae’n bosibl cyflawni’r targed o 3 y cant o ostyngiad blynyddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd creu swyddi gwyrdd carbon isel, cynaliadwy yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiweddaru Ôl-Troed Ecolegol Cymru ac i fabwysiadu mesur ar ddefnydd o allyriadau er mwyn mesur yn llawn allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu mewnforio o wledydd eraill yn y byd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ymestyn y cynllun Arbed fel yr awgrymwyd gan y Comisiwn yn yr adroddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd camau digonol i gyrraedd ei tharged allyriadau o 3 y cant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a fydd yn cael effaith ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4960 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
(a) Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf;
(b) y camau sy’n cael eu cymryd i wireddu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd;
(c) yn credu y bydd creu swyddi gwyrdd carbon isel, cynaliadwy yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd;
(d) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiweddaru Ôl-Troed Ecolegol Cymru ac i fabwysiadu mesur ar ddefnydd o allyriadau er mwyn mesur yn llawn allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu mewnforio o wledydd eraill yn y byd;
(e) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ymestyn y cynllun Arbed fel yr awgrymwyd gan y Comisiwn yn yr adroddiad; a
(f) yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a fydd yn cael effaith ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
1 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.56
Daeth y cyfarfod i ben am 17.59
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, ddydd Mercher, 25 Ebrill 2012